Categories: Home | About CaPRICoRN | Events | Cymraeg
![]() |
Cardiff Public Relations and Integrated Communications Research Network - (CaPRICoRN) | ![]() |
![]() |
![]() |
Trafodaeth ynglŷn a Nawdd, Marchnata a Chyfathrebu
Trafodaeth ynglŷn a Nawdd, Marchnata a Chyfathrebu
Louisa Scadden, Pennaeth Cyfathrebu, Grŵp Admiral Plc
Dydd Mercher 26 Hydref 2011, 5.30-7.00pm
“Eich staff : eich adnodd pwysicaf - ymdriniaeth newydd o nawdd”
Dyma fydd y thema canolog fydd yn cael ei drafod yn ystod seminar gyda Louisa Scadden, Pennaeth Cyfathrebu, Grŵp Admiral Plc fydd yn cael ei gynnal ar Ddydd Mercher 26 Hydref 2011 yn Ystafell Bwyllgor 1, Adeilad Morgannwg, o 5.30 i 7.00pm. Bydd y noswaith yn dechrau gyda derbyniad gwin a rhwydweithio o 5.30-6.00pm, gyda sgwrs a sesiwn cwestiynau i ddilyn o 6.00-7.00pm.
Mae niferoedd ar gyfer y digwyddiad wedi eu cyfyngu felly e-bostiwch knighth@cf.ac.uk i sicrhau eich lle.
Ynglŷn a'r Digwyddiad
Bydd y sgwrs yn cynnig persbectif busnes ynglŷn a’r defnydd o nawdd fel offeryn rheoli marchnata strategol.
Louisa Scadden yw Pennaeth Cyfathrebu Grŵp Admiral Plc., yr unig gwmni o Gymru sydd wedi ei restru ym mynegai can cwmni y FTSE. Ymunodd Louisa gyda Admiral 14 blynedd yno ôl, ac mae hi felly wedi dilyn a bod yn rhan o dwf y busnes o un brand heb ddim cwsmeriaid nol yn 1993 i un o’r brif gwmnïau’r diwydiant yswirio ceir gyda 2.75miliwn o gwsmeriaid a 4500 o staff ledled yn byd.
Mae athroniaeth Admiral yn syml ac yn cael ei adlewyrchu ym mhopeth mae’r cwmni yn ei wneud: mae pobl yn gwneud eu gwaith yn well os ydynt yn mwynhau beth maent yn ei wneud. Mae staff hapus yn creu cwsmeriaid hapus, mae cwsmeriaid hapus yn cynyddu elw, ac mae cynyddu elw yn creu rhanddeiliaid hapus. Bydd rhanddeiliaid hapus eisiau tyfu’r busnes, a bydd y cylch yn cychwyn eto. Mae’r Grŵp wedi cael ei gynnwys yn Rhestr 100 Cyflogwr Gorau y Sunday Times am un ar ddeg mlynedd ac yn Rhestr 50 Gweithle Gorau Prydain a 100 Gweithle Gorau yr Undeb Ewropeaidd am 9 mlynedd o’r bron.
Mae record rhagorol y cwmni o noddi digwyddiadau a chanolfannau cymunedol ledled De Cymru megis Penwythos Mawr Admiral Caerdydd, Gŵyl Big Splash Casnewydd, Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe, Canolfan Chapter Caerdydd, No Fit State Circus, a Theatr Glanyrafon Casnewydd, yn rhan o strategaeth y cwmni i fod yn gyflogwr rhagorol.
Bydd Lousa yn siarad am y ffordd unigryw y mae nawdd yn cael ei ddefnyddio yn Admiral trwy drafod y thema canolog: “Eich staff : eich adnodd pwysicaf - ymdriniaeth newydd o nawdd.”
Ynglŷn a CaPRICoRN
Cafodd Rhwydwaith Ymchwil Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu Integredig Caerdydd (CaPRICoRN) ei sefydlu ym Mis Ionawr 2010 i ddod ag ymchwilwyr ol-radd gyda diddordeb mewn cysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu sefydliadol, atebolrwydd busnes a chyfathrebu-marchnata integredig o CARBS, JOMEC, ENCAP a chanolfannau ymchwil eraill ynghyd. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Cara Reed, Helena Knight a Llyr Roberts o’r Ysgol Fusnes a Racheal Agbonkhese o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaetahu Diwylliannol ac yn cael ei ariannu gan y Coleg Graddedigion.
© Helena Knight. Powered by Apache Roller 4.0.1-dev.
| « May 2013 | ||||||
| Sun | Mon | Tue | Wed | Thu | Fri | Sat |
|---|---|---|---|---|---|---|
1 | 2 | 3 | 4 | |||
5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 |
12 | 13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 |
19 | 20 | 21 | 22 | 23 | 24 | 25 |
26 | 27 | 28 | 29 | 30 | 31 | |
| Today | ||||||
Tags
accountability collaboration communication communications corporate cymraeg debate discourse discussion events facebook integrated interdisciplinary journalism marketing metaphor metaphors network nonprofit organisational partnership partnerships postgraduate pr private researchers sector seminar social sponsorshipNavigation
Links
- BRASS Centre
- CIPR Cymru Wales
- Cardiff Business School
- Cardiff School of Journalism, Media and Cultural Studies
- Cardiff University
- Research and Graduate Schools (RGS)



